-
Education
-
Admin & Secretarial, Customer Service
-
Newport
-
£24,394 - £27,495
You have successfully applied for this job!
Sorry you can only apply the a role once.
The job you're currently viewing is expired, you will be unable to apply for this role!
At Coleg Gwent, our mission is simple: to CHANGE LIVES THROUGH LEARNING. We are one of the top performing colleges in Wales and we have high aspirations for our students, for our staff and for the communities we serve.
Our education and training offer is broad and diverse, covering Further Education, Higher Education and apprenticeships, across five inspirational, well-equipped campuses. We have further exciting projects in the pipeline, including our new Hive centre for advanced engineering and the redevelopment of our Newport city campus. The College is forward thinking and dynamic and if you want to make a difference, this is the place to do it.
It’s a great time to join the college as we move towards an exciting new future under the leadership of our new Principal. This is a newly created role, designed to elevate the Business Systems and MIS functions, ensuring best practice in these areas.
As our new Director of Data and Funding, you will be the strategic lead in the collation and use of information to provide support for decision-making and measuring performance across the college. Reporting to the Vice Principal (Resources & Planning), this is a great opportunity to manage all aspects of our MIS systems and provide a fresh perspective to bring about further improvement.
As a member of the Senior Leadership Team, you will play a crucial role in driving forward the college’s performance and ensuring the college is best placed to deliver our new strategic plan. As well as shaping the current reporting systems to further enhance the college deliverables, the Director of Data and Funding will lead and develop a talented, motivated workforce and work in partnership with stakeholders across the college.
The successful candidate will have experience of managing information systems, adding value to data systems and sound knowledge of data and compliance. A strong manager, you will get the best out of your teams and provide a supportive and developmental culture. You will have the ability to build and maintain strong working relationships with both colleagues across the college and with external stakeholders.
The College offers many employment benefits including generous holiday entitlement, pension scheme and many on-site benefits and facilities. Within easy access of the M4 corridor, our campuses are set within reach of some of the most beautiful countryside in South Wales.
Closing Date – 29/09/24
Yng Ngholeg Gwent, mae ein cenhadaeth yn syml: NEWID BYWYDAU TRWY DDYSGU. Rydym yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein cynnig addysg a hyfforddiant yn eang ac amrywiol, gan gwmpasu Addysg Bellach, Addysg Uwch a phrentisiaethau, ar draws pum campws ysbrydoledig, llawn offer. Mae gennym ni brosiectau cyffrous pellach ar y gweill, gan gynnwys ein canolfan Hive newydd ar gyfer peirianneg uwch ac ailddatblygu ein campws yn ninas Casnewydd. Mae’r Coleg yn flaengar ac yn ddeinamig ac os ydych am wneud gwahaniaeth, dyma’r lle i wneud hynny.
Mae’n amser gwych i ymuno â’r coleg wrth i ni symud tuag at ddyfodol newydd cyffrous o dan arweiniad ein Pennaeth newydd. Mae hon yn rôl newydd, wedi’i dylunio i ddyrchafu swyddogaethau Systemau Busnes a MIS, gan sicrhau arfer gorau yn y meysydd hyn.
Fel ein Cyfarwyddwr Data a Chyllid newydd, chi fydd yr arweinydd strategol o ran casglu a defnyddio gwybodaeth i ddarparu cymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau a mesur perfformiad ar draws y coleg. Gan adrodd i’r Is-Bennaeth (Adnoddau a Chynllunio), mae hwn yn gyfle gwych i reoli pob agwedd ar ein systemau MIS a darparu persbectif newydd i sicrhau gwelliant pellach.
Fel aelod o’r Uwch Dîm Arwain, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru perfformiad y coleg yn ei flaen a sicrhau bod y coleg yn y sefyllfa orau i gyflawni ein cynllun strategol newydd. Yn ogystal â siapio’r systemau adrodd presennol i wella cyflawniadau’r coleg ymhellach, bydd y Cyfarwyddwr Data a Chyllid yn arwain a datblygu gweithlu dawnus, llawn cymhelliant ac yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar draws y coleg.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o reoli systemau gwybodaeth, ychwanegu gwerth at systemau data a gwybodaeth gadarn am ddata a chydymffurfiaeth. Yn rheolwr cryf, byddwch yn cael y gorau o’ch timau ac yn darparu diwylliant cefnogol a datblygiadol. Bydd gennych y gallu i adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr ar draws y coleg a chyda rhanddeiliaid allanol.
Mae’r Coleg yn cynnig llawer o fuddion cyflogaeth gan gynnwys hawl gwyliau hael, cynllun pensiwn a llawer o fuddion a chyfleusterau ar y safle. O fewn cyrraedd hawdd i goridor yr M4, mae ein campysau wedi’u lleoli o fewn cyrraedd i rai o gefn gwlad harddaf De Cymru.
Dyddiad Cau – 29/09/24